4/08/2011

Mis Mawrth ym Milwaukee


Tua mis yn ôl, roeddwn i'n barod i ysgrifennu sawl post am lyfrau newydd eu darllen a’r sefyllfa gwleidyddol yn ein talaith ni (efallai eich bod wedi gweld rhywbeth amdano yn y penawdau), ond yn anffodus, fe gawson ni argyfwng teuluol sydd wedi troi ein byd bach ni wyneb i waered. Chwe mis ar ôl cael llawdriniaeth y galon, datblygodd Rhiannon gornwyd ar ei bol nad oedd yn ymateb i wrthfiotig. Aethon ni’n gyntaf i ysbyty plant Madison, lle datguddiod sgan CT bod yr haint yn ddyfnach na’r croen. Roedd ganddi achos o mediastinitis, sef haint ddifrifol o gwmpas ei chalon a'i hysgyfaint. I ffwrdd â ni mewn ambiwlans i Ysbyty Plant Wisconsin ym Milwaukee, lle gafodd ein merch fach llawdriniaeth. Aeth hi o dan y gyllell yn gyntaf i glirio’r feinwe wedi ei heintio, ac wedyn i ail-wneud y driniaeth a dderbynnodd hi ym mis Hydref, sef ail-osod sianel artiffisial yn ei harteri ysgyfeiniol. Rydyn ni wedi bod adre ers pythefnos nawr, a dwi’n hapus i ddweud bod Rhiannon wedi gwella’n gyflym. Diolch byth roedd 'na arwydd o'r haint ac yr ydyn ni wedi ei dal mewn amser.