8/31/2006

Cyflwyniad

Pam ydw i'n blogio? Mae gen i angen gwella'r Gymraeg. Gadawais i Gymru yn rhy ifanc i ddysgu'r hen iaith yn yr ysgol. Dros y blynyddoedd, dw i wedi ceisio dysgu Cymraeg, ond nad oedd hyn yn hawdd i'w wneud yn Lloegr, heb so^n am fod heb y ddisgyblaeth tu allan i'r ysgol i astudio'r iaith. Mae rhaid i mi ddweud, roeddwn i'n ddisgybl da mewn ieithoedd fel Almaeneg a Ffrangeg. Roeddwn i'n gwybod bod gen i'r gallu i ddysgu Cymraeg.

Symudais i'r America yn 1988, yn 14 oed, a dechreuodd pennod newydd fy mywyd. Roeddwn i'n hiraethu'n ofnadwy am gyfnod hir ar o^l groesi'r Iwerydd; fe ddes i'n wrandawr crefyddol y Gwasanaeth Rhyngwladol y BBC.

Mae rhaid i fi gyfadde, roeddwn i'n dipyn o "nerd" yn yr ysgol, heb lot o ffrindiau -- roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn pynciau academaidd. Ac wrth gwrs, roeddwn i'n Gymro yn ystyfnig.

Fe es i'r ysgol uwchradd ac astudiais i hanes ym Mhrifysgol Miami (nid yn Fflorida, ond yma, yn "Rhydychen," Ohio).

Ers hynny, gweithiais i am gyfnod yn siop llyfrau lle cwrddais a^'r wraig, sydd yn ddisgynydd o fewnfudwyr Cymreig. Symudais o Cincinnati i Wisconsin, un o'r daleithiau mwyaf hyfryd y "Canol-Gorllewin" yr UDA, lle ymsefydlodd miloedd o Gymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd gen i fwy o awydd i fynd yn o^l i'm gwreiddiau Cymreig a cheisio dysgu'r iaith un waith eto.

Ond mae un peth wedi cael ei creu sy wedi newid popeth -- y rhyngrwyd.

Yma, draw dros y moroedd yn America, fe alla i ddarllen pob math o erthyglau a newyddion yn y Gymraeg. Dw i'n gwrando ar Radio Cymru neu gwylio Wedi7 ar S4C bron bob dydd. Dw i'n archebu llyfrau Cymraeg a cherddoriaeth o'r we hefyd.

Wrth gwrs, mae fy Nghymraeg yn dal i fod yn dipyn clapiog (ond gobeithio na byddaf yn gwneud camgymeriad fel hyn). Dydy'r we ddim yn cymryd lle o fynd i ysgol Gymraeg neu byw yng Nghymru a defnyddio'r iaith pob dydd. Ac mae'n annod iawn i ffeindio siaradwyr y Gymraeg yma er gwaetha etifeddiaeth Gymreig y dalaith. Pan ydw i'n mynd yn o^l i Gymru, dydy rhai o'r teulu ddim yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, er eu bod nhw'n falch o fod yn Gymry. Mae'n siomedig iawn i fi glywed eu sylwadau, ond dw i'n credu bod hyn yn debygol o bobl sy'n byw mo^r agos at Glawdd Offa.

Mae'r we wedi rhoi cyfle i mi ymarfer yr iaith sgrifenedig hefyd. Gallwch ddarllen erthygl a ysgrifenais i'r BBC am aduniad teuluol fy ngwraig yma. Ac hefyd, tudalen am Frank lloyd Wright, pensaer sy'n aelod y teulu. Diolch i'r golygydd am ei amynedd!

Wrth gwrs, digon amdana i. Dydw i ddim mo^r ddiddorol!

8/25/2006

Helo 'na!

Pwy ydw i? Dw i'n dod yn wreiddiol o Gasnewydd, a chefais i fy magu yn Llanfarthin cyn i'r teulu symud i Fryste. Pan oeddwn i'n 14 oed, symudais i Cincinnati, Ohio efo'r rhieni, ac yno, fe es i'r ysgol uwchradd a phrifysgol. Fe gwrddais i a^'r wraig, Americanes o dras Gymreig, yno hefyd. Sefydlodd ei hynafiaid o Geredigion tyddyn yn Wisconsin yn y 1860au. Ar o^l ymweld a^r dalaith am aduniad teuluol, dw i wedi syrthio mewn cariad efo'r ardal gwledig, sy'n edrych yn dipyn bach fel Cymru. Mae'n hawdd i weld pam y ddewisodd y Cymry i ymsefydlu yma. Byddaf yn ysgrifennu lot mwy am yr ardal, ei hanes, a'i phrydferthwch yn y dyfodol.