4/08/2011

Mis Mawrth ym Milwaukee


Tua mis yn ôl, roeddwn i'n barod i ysgrifennu sawl post am lyfrau newydd eu darllen a’r sefyllfa gwleidyddol yn ein talaith ni (efallai eich bod wedi gweld rhywbeth amdano yn y penawdau), ond yn anffodus, fe gawson ni argyfwng teuluol sydd wedi troi ein byd bach ni wyneb i waered. Chwe mis ar ôl cael llawdriniaeth y galon, datblygodd Rhiannon gornwyd ar ei bol nad oedd yn ymateb i wrthfiotig. Aethon ni’n gyntaf i ysbyty plant Madison, lle datguddiod sgan CT bod yr haint yn ddyfnach na’r croen. Roedd ganddi achos o mediastinitis, sef haint ddifrifol o gwmpas ei chalon a'i hysgyfaint. I ffwrdd â ni mewn ambiwlans i Ysbyty Plant Wisconsin ym Milwaukee, lle gafodd ein merch fach llawdriniaeth. Aeth hi o dan y gyllell yn gyntaf i glirio’r feinwe wedi ei heintio, ac wedyn i ail-wneud y driniaeth a dderbynnodd hi ym mis Hydref, sef ail-osod sianel artiffisial yn ei harteri ysgyfeiniol. Rydyn ni wedi bod adre ers pythefnos nawr, a dwi’n hapus i ddweud bod Rhiannon wedi gwella’n gyflym. Diolch byth roedd 'na arwydd o'r haint ac yr ydyn ni wedi ei dal mewn amser.

1/17/2011

"Mae gen i freuddwyd ..."

Heddiw yw dydd swyddogol cofio Martin Luther King Jr., y dyn a wnaeth mwy nag unrhyw un arall dros hawliau dynol yn yr Unol Daleithiau, ac a dalodd y pris eithaf am ei ymdrech heddychlon yn erbyn casineb ac anffafriaeth hiliol. Mae angen tipyn bach o'i ddoethineb yn y byd heddiw, rhaid dweud. Dyma eiriau sy'n dal i ysbrydoli:

1/13/2011

Pwy yw y Bachan Main?

Rwyf yn awyddus i gysylltu â blogwr o'r enw "y Bachan Main," gan ei fod yn hoffi mynwenta yn hen trefedigaethau Cymreig canolbarth America. Ond yn anffodus, does dim modd cysylltu neu adael neges ar ei flog. Mae ganddo gyfrif youtube dan yr enw "iantoglantawe" hefyd, dwi'n credu. Os unrhyw un yn ei nabod, byddwn yn ddiolchgar i glwyed gennych.

1/04/2011

Blwyddyn newydd, blog newydd.

Blwyddyn Newydd Dda! Hen bryd i mi adfer blog oedd yn gasgliad o feddyliau di-gyfeiriad. Amser i symleiddio a chanolbwyntio ar bethau sy'n werth darllen amdanynt. Mwy i ddod. Cyn bo hir.